Cofnodion Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Geffylau

Cynhaliwyd yn Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

ddydd Mawrth 27 Ionawr, 2015 am 6pm

 

 

 

Yn bresennol:

Angela Burns AC (Cadeirydd)

Stuart Burns (Staff Cymorth Angela Burns)

Andrew RT Davies AC (Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig) Rhan

Jenny MacGregor (SWHP)

Sian Lloyd (SWHP)

Rachel Evans (Cyfarwyddwr Cynghrair Cefn Gwlad Cymru)

Tony Evans (WHW)

Alan Pearce (Cludiant Ceffylau)

Phillip York (Ymgynghorydd Lles Ceffylau)

Steve Carter (Cyfarwyddwr RSPCA Cymru)

William Jenkins (NFU Cymru)

Elaine Griffiths (Cymdeithas Ceffylau Prydain - Lles Cymru)

Nic De Brauwere (Redwings)

Jan Roche (Cymdeithas Ceffylau Prydain/ysgrifenyddiaeth drawsbleidiol)

Colin Thomas (Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd)

Helen Manns (Is-gadeirydd Cymdeithas Ceffylau Prydain - Cymru)

 

                                                                                                                                   

Ymddiheuriadau:

Janet Finch-Saunders AC (Is-gadeirydd)

Lee Hackett (Cyfarwyddwr Polisi Ceffylau Cymdeithas Ceffylau Prydain)

Mark Weston (Cyfarwyddwr Mynediad Cymdeithas Ceffylau Prydain)

Graham Capper (Ymgynghorydd Ceffylau)

Maureen Lloyd (STAGBI)

Huw Rhys Thomas (NFU)

Lee Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

Rowan Moore (Heddlu De Cymru)

J Staley (Tir Comin)

 

 

                                                   

 

  1. Estynnodd Angela Burns groeso i bawb i'r cyfarfod.

 

  1. Nodwyd yr ymddiheuriadau a ddaeth i law.

 

3.       Nodwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

  1. Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) - y diweddaraf: Roedd BBC Radio Wales wedi trefnu slot i'w ddarlledu'n ddiweddarach yr wythnos honno i dynnu sylw at y ffaith bod blwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi'r Bil. Roedd Aelodau'r Grŵp wedi rhoi cyfweliadau.

Roedd llawer o awdurdodau lleol yn defnyddio'r ddeddfwriaeth yn llwyddiannus - dywedodd William Jenkins fod Caerffili a Blaenau Gwent wedi cydweithio'n dda yn eu hardaloedd. Roedd pryderon o hyd nad oedd y ddeddfwriaeth yn statudol/orfodol, ac felly nad oedd rhai awdurdodau lleol yn ei defnyddio. Byddai ymholiadau'n cael eu gwneud ynghylch pa rai, er mwyn cymharu. Roedd cwestiwn hefyd yn dal i fodoli ynghylch symud ceffylau oddi ar dir preifat lle'r oedd y cyfnod o 14 diwrnod yn cael ei ddefnyddio ac roedd rhai awdurdodau lleol yn araf yn camu i mewn. Dywedodd Tony Evans fod yr hysbysiad 14 diwrnod yn berthnasol o dan y gyfraith ar grwydro, ond bod problem ychwanegol ynghylch gwerthu/symud y ceffyl os nad oedd ganddo sglodyn/pasbort.

Cytunwyd bod angen adolygu'r mater a bod angen i'r ddeddfwriaeth fod yn statudol ond nodwyd hefyd y byddai hyn yn arwain at oblygiadau ariannol i'r awdurdodau lleol.

Roedd San Steffan wrthi'n mynd trwy gyfnodau'r Bil Rheoli yn Lloegr a byddai'n ddiddorol gweld a fyddai'n cynnwys y cymal statudol. Nid oedd dim yn glir ynghylch hynny eto.

 

Tynnodd Jan Roche sylw at y ffaith bod e-ddeiseb wedi cael ei lansio gan aelod o'r cyhoedd yn gofyn am y canlynol (fel y'i cymerwyd oddi ar yr adran e-ddeisebau ar wefan y Cynulliad):

 

A. Cofrestru/rhewfrandio ceffylau sy'n perthyn i gominwyr sydd â hawliau pori cyfreithlon

B. Ni ddylai unrhyw ebolion bori ar dir comin os ydynt dros chwe mis oed oni bai eu bod yn frodorol ac wedi'u trwyddedu (er mwyn diogelu Merlod Mynydd Cymreig)

C. Elusennau cofrestredig yn cael yr hawl i gael gwared â cheffylau ar sail llesiant drwy gytundeb â'r heddlu, a symud y merlod i gartrefi maeth sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw wrth chwilio am y perchnogion. Pan fo'n bosibl, dylid ailgartrefu'r merlod ar ôl cyfnod penodol o amser.

D. Os bydd ceffylau sydd wedi “ymgynnull” yn pori'n anghyfreithlon, ac os na ellir dod o hyd i'r perchnogion, yna dylid gwneud ymdrech i'w hailgartrefu i ddechrau, cyn gwneud unrhyw benderfyniad i'w rhoi i lawr (nid dyma'r weithdrefn bresennol)

E. Dylai'r holl weithdrefn fod yn dryloyw a dylai cynghorau fod yn atebol i'r cyhoedd.

 

5.      Y diweddaraf am yr ymchwiliad i ferlod cynhenid ​​Cymru: Roedd Angela Burns yn aros i drafod materion â'r gweinidog newydd. Roedd llawer o waith ymchwil eisoes wedi ei gwblhau.

 

6.      Cyflwyniad ar dir comin yng Nghymru: Roedd Stuart Burns wedi ymchwilio i'r gyfraith ym maes tir comin, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

O dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006, gellir sefydlu cynghorau tir comin statudol i annog gwell rheolaeth leol ar dir comin. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn orfodol a gall buddiannau lleol benderfynu a ddylid defnyddio'r pwerau ai peidio.

Mae'r cynghorau hyn yn strwythurau democrataidd lle bo cefnogaeth sylweddol iddynt. Cymerir camau yn erbyn gweithgareddau amaethyddol anghyfreithlon a niweidiol ar y tiroedd comin.

 

Roedd y Ddeddf hefyd yn cynnwys cymal, yn Adran 46 Rhan Pedwar, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymdrin â sefyllfaoedd pan fo gweithgareddau amaethyddol heb eu hawdurdodi'n cael eu cynnal ac yn difrodi'r comin, ac nad oes neb yn gallu gweithredu i'w rheoli fel arall. Gallai'r pŵer hwn gael ei ddefnyddio pan fo un neu fwy o bobl wedi bod yn pori anifeiliaid ar y comin heb hawl i wneud hynny.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Tiroedd Comin 2006 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/common/commonsact2006/?lang=cy

 

Cafwyd trafodaeth wedyn ar sut y mae'r Cynghorau Tir Comin hyn yn cael eu sefydlu a faint o amser sydd ei angen. Roedd cyllid yn aml ar gael ac roedd modd cael gafael arno ar ôl cwblhau'r broses. Byddai unrhyw broses yn gwahodd cydweithrediad a chyfraniad y cominwyr/tirfeddianwyr dan sylw. Roedd angen i'r holl randdeiliaid weithio gyda'i gilydd.

Tynnodd Philip York sylw at y ffaith nad oedd y Merlod Mynydd Cymreig yn y dosbarth 'mewn perygl' mwyach ar y Gofrestr Bridiau Prin - mae angen eu hailddosbarthu a chadarnhaodd Colin Thomas fod trafodaethau ar y gweill er mwyn cael newid y statws.

Gallai'r Ddeddf Tiroedd Comin gynnig ateb a ffordd bosibl ymlaen gan fod y pwerau yno o bosibl i ddatrys llawer o broblemau.

Roedd Deddf Tiroedd Comin 1908 ar gael hefyd ac mae'n rhoi'r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch troi anifeiliaid cyfan allan ar y comin, yn ogystal â'r pŵer i benodi swyddog i'w symud/gorfodi'r rheoliadau, ond nid yw ond yn berthnasol i gymdeithasau tiroedd comin sydd â chyfansoddiad a rheoliadau. Byddai angen cyllid i ddefnyddio'r Ddeddf hon.

 

Dywedodd Nic De Brauwere fod yr UE ar hyn o bryd yn gweithio ar y ddeddfwriaeth hanfodol ym maes system adnabod ceffylau.

 

7.      Unrhyw fater arall: Byddai Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig yn penodi cynrychiolydd newydd ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol gan fod Alan Pearce bellach yn ymdrin â Chludiant Ceffylau ar y Grŵp. Trafodwyd y newyddion na fyddai Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru bellach yn ymdrin ag achosion o achub anifeiliaid mawr o fis Ebrill 2015 a mynegwyd llawer o bryderon ynghylch y penderfyniad hwn a'r effaith y gallai ei chael ar ddiogelwch pobl yn ogystal. Roedd adroddiad FOSH (Cyfeillion Ceffylau Abertawe) wedi ei ddosbarthu i'r holl aelodau er gwybodaeth.